Defnyddio nbtutor

Weithiau yn y dosbarth byddwch yn fy ngweld yn defnyddio estyniad Jupyter o'r enw nbtutor i helpu delweddu beth sy'n digwydd.

Os hoffwch chi ddefnyddio nbtutor eich hun mae angen ei osod.

Gosod nbtutor

I wneud hwn:

  • Ar Windows agorwch Anaconda prompt
  • Ar Mac OSX agorwch terminal

teipiwch y canlynol:

pip install nbtutor

gwasgwch Enter ac fe ddylai lawrlwytho.

Defnyddio nbtutor

Yn Jupyter, rhowch y canlynol mewn cell i lwytho nbtutor: %load_ext nbtutor


In [1]:
%load_ext nbtutor

Yna i'w ddefnyddio ar unrhyw gell: %%nbtutor. Dyma enghraifft:


In [2]:
%%nbtutor

cumulative_sum = 0
for i in range(10):
    cumulative_sum += i

Bydd hwn yn arddangos amgylchedd rhyngweithiol sy'n edrych fel y llun canlynol:

Gallwch chi glicio ar next i gamu trwy'r cod tra ei bod yn delweddu beth y mae'n ei wneud, gallwch hefyd newid y bocs opsiwn o Memory i Timeline.

  • Memory: yn dangos beth sydd gan Python yn ei chof a pa gyfeirgwn sydd gan Python yn ei chof a beth y mae'r cyfeirgwn hynny yn cyfeirio atynt ar y pryd;
  • Timeline: yn dangos yr amryw o wrthrychau dros amser.

Os hoffwch ddarllen y ddogfennaeth ar gyfer nbtutor gallwch ei weld fan hyn: https://nbtutor.readthedocs.io/en/


In [ ]: